Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Ty Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 12 Gorffennaf 2012 |
|
|||
Amser: |
11:00 - 12:30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2012(6) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Steven O'Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad (Swyddog) Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog) Ross Davies, Rheolwr Cydraddoldeb (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
|
|||
|
|
||||
1. Introduction
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Bydd Dianne Bevan, y Prif Swyddog Gweithredu, yn ymddeol ddiwedd y tymor hwn. Dymunodd y Comisiynwyr yn dda i Dianne ar ei hymddeoliad gan ddiolch iddi am ei chyfraniad i waith y Cynulliad.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
2. Cyllideb ddrafft 2013-14
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eto eu hymrwymiad i weithio o fewn y gwariant dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn nogfen gyllidebol y llynedd.
Mae disgwyl y bydd y Comisiwn yn cytuno ar y gyllideb yn ei gyfarfod ar 27 Medi, cyn ei gosod gerbron y Cynulliad ar 28 Medi.
Cyfeiriodd y Comisiynwyr at y ddogfen sydd ar waith gan ddiolch i'r swyddogion am eu gwaith ar gyllideb 2013-14.
Camau i'w cymryd: Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar ddogfen y gyllideb yn ystod toriad yr haf, gan gynnwys y materion a drafodwyd yn y cyfarfod ynddi.
3. Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12 i'r Comisiynwyr i'w nodi. Mae'n ofynnol i'r Pwyllgor Archwilio ddarparu Adroddiad Annibynnol i'r Comisiwn, ac i'r Swyddog Cyfrifyddu, yn crynhoi ei waith yn ystod y flwyddyn, ar yr un pryd ag y mae cyfrifon blynyddol y Comisiwn yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad.
Mae'r adroddiad yn nodi bod lefelau gwarantu yn y Comisiwn yn gyffredinol dda, â chyfle i wella mwy mewn rhai meysydd a chael gwell effeithlonrwydd wrth reoli a defnyddio rheolyddion. Bydd y Pwyllgor yn parhau i roi sylw penodol i’r meysydd hyn yn 2012-13 a sicrhau bod y rhaglen archwilio mewnol yn cefnogi hyn.
Noddodd y Comisiynwyr yr adroddiad.
Rhoddodd Claire Clancy grynodeb ar lafar o waith y Pwyllgor Archwilio, yn dilyn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf a chadarnhau bod y Pwyllgor Archwilio wedi argymell ei bod hi, fel Swyddog Cyfrifyddu, yn llofnodi cyfrifon blynyddol y Comisiwn. Gwnaed hyn, ac roedd disgwyl i Archwilydd Cyffredinol Cymru eu llofnodi a'u cyflwyno yn ystod y dyddiau nesaf.
4. Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2011-12
Mae Comisiwn y Cynulliad yn llunio Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wnaed ar y camau a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb 2008-2012. Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gwaith y mae staff y Comisiwn wedi ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng mis Ionawr 2011 a mis Mawrth 2012.
Mae uchafbwyntiau'n cynnwys hyrwyddo cymryd rhan mewn democratiaeth drwy ymgyrch 'Pleidleisiwch 2011’; datblygu ffyrdd o ymgysylltu ag amrywiol grwpiau ledled Cymru; cefnogi rhwydweithiau staff; dod yn rhif 20 ym mynegai cydraddoldeb Stonewall 2012; cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan grwpiau amrywiol, a datblygu taflenni gwybodaeth i addysgu Aelodau am eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr waith y Tîm Cydraddoldeb a nodi'r llwyddiannau niferus yn ystod y cyfnod yr adroddwyd amdano.
Cytunwyd y byddai rhai newidiadau i'r adroddiad, gan gynnwys amlygu'r llwyddiannau mwyaf arwyddocaol yn fwy eglur a lleihau hyd cyffredinol y ddogfen, cyn ei chyhoeddi.
5. Rhaglen dreigl
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ddydd Iau 27 Medi. Bydd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys y Gyllideb Ddrafft 2013-14
6. Unrhyw Fusnes Arall
Bydd y Comisiynwyr yn cynnal cyfarfod anffurfiol ar 2 Awst.
Cytunodd Claire Clancy i rannu'r ohebiaeth ddiweddaraf ag Atos â'r Comisiynwyr.
Yna, aeth y Comisiwn i sesiwn breifat a chytuno ar gynnig ynghylch mater cyfrinachol yn ymwneud â staffio a gyflwynwyd iddynt gan y Prif Weithredwr yn unol â’r Ddirprwyaeth.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Gorffennaf 2012